BEAT FLU / CURWCH FLIWW - says Public Health Wales

11 January 2021
BEAT FLU / CURWCH FFLIWW - says Public Health Wales

Flu is a virus which affects breathing and the lungs. It can be a serious illness, especially for older people, and those who are pregnant or have a long term health problem. Most years, thousands of people die from flu in the UK.

Having a flu vaccine is one of the best ways to protect you from catching flu, or from spreading it to other people in your community.

It’s not too late to get your vaccine as flu is not yet circulating around Wales.

So if you are in one of the high risk groups, get yours today.

Where can I get my flu vaccine?

You can get your flu vaccine at your local GP surgery or community pharmacy. Primary school children can get their vaccine from their school.

Is it safe to visit a GP or community pharmacy to have a flu vaccine?

Yes. GP surgeries and community pharmacies are following COVID-19 guidance to help keep you safe.

Getting a flu vaccine is an important medical appointment, so it is fine to attend even if there are lockdown restrictions.

Please wear a face covering for your flu vaccine appointment, unless your doctor has told you that you are not required to. 

Who can have a free NHS flu vaccine?

• Children, aged 2 or 3 on 31st August 2020

• Primary school children

• Individuals aged 6 months and over with a long-term health condition

• Individuals with a learning disability

  • Adults who are very overweight

• Pregnant women

• People aged 50 and over (this includes everyone who will be 50 or over by 31 March 2021)

• Unpaid carers

• Domiciliary carers (People that provide care in the persons own home)

• Care home staff with regular client contact

 More information about where you can get your vaccine can be found here https://phw.nhs.wales/services-and-teams/beat-flu/how-to-get-your-vaccination/

BEAT FLU / CURWCH FFLIWW - says Public Health Wales
BEAT FLU / CURWCH FLIWW - says Public Health Wales

Is there anyone who shouldn’t have a flu vaccine?

There are very few people who can’t have a flu vaccine.

  • If you’ve ever had a serious allergic reaction to a flu vaccine, you shouldn’t have that vaccine again.
  • If you’re unwell with a high temperature, don’t have the vaccine until you feel better.
  • If you have had a COVID-19 vaccine, you should wait 7 days before having a flu vaccine.

How will I feel after having a flu vaccine?

Some people have:

  • Tiredness
  • A headache
  • Aching muscles
  • A slight temperature
  • Your arm may be a bit red and sore where you had the injection
  • Children from age 2 may have a runny nose from the nasal spray vaccine

A fever after the flu vaccine does not require self-isolation or COVID-19 testing unless there are other symptoms suggestive of COVID-19 infection i.e. if the fever is high (37.8°C or above), a new continuous cough or a loss of taste or smell.

What should I do if it think I have flu?

Flu and COVID-19 symptoms can be similar. If you think you might have COVID-19, it is important to stay at home and follow the current COVID-19 guidelines.

If you think you might have flu it is important to rest at home, keep warm and drink plenty of water.

To help stop flu and other viruses spreading, remember to:

•        Catch it – use tissues to catch your cough or sneeze

•         Bin it – dispose of your tissue as soon as possible

•        Kill it – clean your hands as soon as you can

Find out more at www.beatflu.org or call your local GP surgery or community pharmacy.

Mae ffliw yn feirws sy'n effeithio ar anadlu a'r ysgyfaint. Gall fod yn salwch difrifol, yn enwedig i bobl hŷn, a'r rhai sy'n feichiog neu sydd â phroblem iechyd hirdymor. Yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, mae miloedd o bobl yn marw o'r ffliw yn y DU.

Cael brechlyn ffliw yw un o'r ffyrdd gorau o'ch amddiffyn rhag dal y ffliw, neu o'i ledaenu i bobl eraill yn eich cymuned.

Nid yw'n rhy hwyr i gael eich brechlyn gan nad yw'r ffliw ar led o amgylch Cymru eto.

Felly os ydych yn un o'r grwpiau risg uchel, mynnwch eich brechlyn heddiw.

Ble gallaf gael fy mrechlyn ffliw?

Gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich meddygfa leol neu'ch fferyllfa gymunedol. Gall plant ysgol gynradd gael eu brechlyn o'u hysgol.

A yw'n ddiogel ymweld â meddyg teulu neu fferyllfa gymunedol i gael brechlyn ffliw?

Ydy. Mae meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol yn dilyn canllawiau COVID-19 i helpu i'ch cadw'n ddiogel.

Mae cael brechlyn ffliw yn apwyntiad meddygol pwysig, felly mae'n iawn mynd iddo hyd yn oed os oes cyfyngiadau symud.

Gwisgwch orchudd wyneb ar gyfer eich apwyntiad brechlyn ffliw, oni bai bod eich meddyg wedi dweud wrthych nad yw'n ofynnol i chi wneud hynny. 

Pwy all gael brechlyn ffliw'r GIG am ddim?

• Plant, 2 neu 3 oed ar 31 Awst 2020

• Plant ysgolion cynradd

• Unigolion 6 mis a throsodd sydd â chyflwr iechyd hirdymor

• Unigolion ag anabledd dysgu

  •  Oedolion sydd dros bwysau yn ddifrifol

• Menywod beichiog

• Pobl 50 oed a throsodd (mae hyn yn cynnwys pawb a fydd yn 50 oed neu drosodd erbyn 31 Mawrth 2021)

• Gofalwyr di-dâl

• Gofalwyr cartref (Pobl sy'n darparu gofal yng nghartref y person ei hun)

• Staff cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch ble y gallwch gael eich brechlyn yma https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/curwch-ffliw/sut-i-gael-eich-brechiad/

BEAT FLU / CURWCH FFLIWW - says Public Health Wales
BEAT FLU / CURWCH FFLIWW - says Public Health Wales

A oes unrhyw un na ddylai gael brechlyn ffliw?

Prin iawn yw'r bobl na allant gael brechlyn ffliw.

  • Os ydych erioed wedi cael adwaith alergaidd difrifol i frechlyn ffliw, ni ddylech gael y brechlyn hwnnw eto. 
  • Os ydych yn sâl gyda thymheredd uchel, peidiwch â chael y brechlyn nes i chi deimlo'n well.
  • Os ydych wedi cael brechlyn COVID-19, dylech aros 7 diwrnod cyn cael brechlyn ffliw.

Sut byddaf yn teimlo ar ôl cael brechlyn ffliw?

Bydd rhai pobl yn profi:

  • Blinder
  • Pen tost / cur pen
  • Cyhyrau poenus
  • Tymheredd yn codi ychydig
  • Efallai y bydd eich braich ychydig bach yn goch ac yn boenus lle cawsoch y pigiad
  • Efallai y bydd gan blant o 2 oed drwyn sy'n rhedeg ar ôl cael brechlyn chwistrell drwynol

Nid yw twymyn ar ôl y brechlyn ffliw yn ei gwneud yn ofynnol hunanynysu na chael prawf COVID-19 oni bai bod symptomau eraill sy'n awgrymu haint COVID-19 h.y. os yw'r dwymyn yn uchel (37.8°C neu uwch), peswch cyson newydd neu golli blas neu arogl.

Beth ddylwn ei wneud os ydw i'n credu bod gen i ffliw?

Gall symptomau ffliw a COVID-19 fod yn debyg. Os ydych yn credu y gallai fod gennych COVID-19, mae'n bwysig aros gartref a dilyn canllawiau presennol COVID-19.

Os ydych yn credu y gallai fod gennych ffliw, mae'n bwysig gorffwys gartref, cadw'n gynnes ac yfed digon o ddŵr.

Er mwyn helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch:

•        Ei ddal – defnyddiwch hancesi papur i ddal eich peswch neu disian

•        Ei daflu – gwaredwch eich hances bapur cyn gynted â phosibl

•        Ei ddifa – golchwch eich dwylo cyn gynted ag y gallwch

Ceir rhagor o wybodaeth yn www.curwchffliw.org neu ffoniwch eich meddygfa leol neu'ch fferyllfa gymunedol.


Region
Tags