Coping and Keeping Safe

31 July 2020
Laurel Price at home

Laurel Price at home photo Courtesy of (C) Gypsies and Travellers Wales

Laurel Price has lived on Rover Way in Cardiff for around 48 years. She is a mother of 10, a grandmother of 37 and a great grandmother of 71.  She shared her experience of living through the pandemic with us.

“I see my two boys, they come every day to see if I'm alright, my daughter checks my curtains every morning to check I'm okay.

I don’t get out much. I'm dependent on people to go to the shop. Sometimes I manage to get out twice a week but if I've got enough food I don't go.

I used to drive but I can only see through my one eye now. I don't like to ask people to take me places, I get ashamed. I know I shouldn't feel ashamed asking my own family but I feel bad. My boy tells me I shouldn't, ‘he says you are my mum, it’s no big deal, just an hour out of my life’.

When I go to the shop, I keep my distance, when I go out on my slab to the gate, people don't come in but I lean out over the gate. It's only my own family I see and the wardens.  I don't wear a mask even when I go to the shop, I see people around doing it but I just keep away from people.

If I could tell people anything I’d say not to worry, of course I do worry about things but I try not to think about the virus, I thank God for being alive every day.”

 

Dod i ben a chadw’n ddiogel gan Laurel Price

Bu Laurel Price yn byw ar Rover Way yng Nghaerdydd ers tua 48 mlynedd. Mae’n fam i 10, yn fam-gu i 37 ac yn hen fam-gu i 71. Mae Laurel wedi rhannu ei phrofiad o fyw drwy’r pandemig gyda ni.

“Rwy’n gweld y ddau fab, maen nhw’n dod draw bob dydd i weld a ydw i’n iawn. Mae fy merch yn edrych i weld a yw’r llenni ar agor bob bore i wneud yn siŵr fod popeth yn iawn.

Dw i ddim yn mynd allan yn aml. Rwy’n dibynnu ar bobl i fynd i’r siop. Weithiau, rwy’n dod i ben â mynd allan ddwy waith yr wythnos, ond os bydd gen i ddigon o fwyd, dw i ddim yn mynd.

Ro’n i’n arfer gyrru car, ond rwy wedi colli fy ngolwg mewn un llygad erbyn hyn. Dw i ddim yn hoffi gofyn i bobl fynd â fi i lefydd, rwy’n teimlo cywilydd. Rwy’n teimlo’n wael am ofyn i aelodau o’r teulu, er na ddylwn i rwy’n gwybod. Mae fy mab yn dweud na ddylwn i hefyd, mae e’n dweud ‘rwyt ti’n fam i fi, dyw hi ddim yn broblem o gwbl, a dim ond rhyw awr mae’n ei chymryd’.

Pan af i’r siop, rwy’n cadw pellter o bawb, a phan fydda’ i’n mynd allan i sefyll ar fy slaben o flaen y giât, dyw pobl ddim yn dod i mewn ac rwy’n estyn dros y giât. Dim ond fy nheulu fy hun a’r wardeniaid rwy’n eu gweld. Dw i ddim yn gwisgo masg wyneb, hyd yn oed pan fydda i’n mynd i’r siop. Rwy’n gweld pobl ar hyd y lle yn gwisgo un,ond rwy’n cadw draw o bobl.

Byddwn i’n dweud wrth bobl i beidio â phoeni. Rwy’n poeni am bethau wrth gwrs, ond rwy’n ceisio peidio meddwl am y feirws. Rwy’n diolch i Dduw fy mod i’n fyw bob dydd.”

Os nad yw’n bosibl cadw pellter o ddau fetr rhyngoch chi ac eraill, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu eich bod yn gwisgo masg wyneb.


Region